Neidio i'r prif gynnwy

Mae Paris yn galw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae dau o weithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn beicio o Gaerdydd i Baris i godi arian i Woody's Lodge.

Mae’r elusen yn darparu canolbwynt cyfathrebu a chymdeithasol ar gyfer cyn-filwyr, gwasanaethau brys, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd.

Bydd y Technegwyr Meddygol Brys Andrew Harris a Craig Baxter, sy’n rhan o Uned Ymateb Beic yr Ymddiriedolaeth sydd wedi’i lleoli yng Ngorsaf Ambiwlans Caerdydd, yn ymuno â’r beic 300 milltir, gan ddechrau yfory.

Bydd y pâr yn darparu gwasanaeth meddygol ac atgyweirio beiciau ar gyfer y deuddeg beiciwr sy'n cymryd rhan, a fydd yn teithio o Gaerdydd i Frome i Portsmouth ac i Baris.

Ar ddiwrnodau tri a phedwar, fe fyddan nhw’n seiclo trwy drefi Caen, Le Neubourg a Magnanville yn Ffrainc, gan obeithio dod i ben ym Mharis ar ddiwrnod pump.

Dywedodd Andrew: “Mae Woody’s Lodge wedi gwneud llawer, gan gefnogi cydweithwyr yn y Lluoedd Arfog a’r gwasanaethau brys ers 2017.

“Rydw i wedi cael help ganddyn nhw yn y gorffennol, felly roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.

“Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi bod yn wych o ran ein cefnogi ar gyfer y daith hon.”Ni fydd yn orchest hawdd, gyda'u beiciau'n pwyso pum stôn a hanner.

Meddai Craig: “Byddwn ni’n cymryd ein tro i feicio y tu ôl i’r beicwyr.

“Fe fydd yn anodd, ond yn werth chweil gan fod Woody’s Lodge yn helpu pawb yn gyffredinol, maen nhw’n dod â llawer i’r bwrdd o ran cefnogaeth.”

Mae Andrew a Craig yn feicwyr profiadol, yn gweithio llawer o ddyddiau Gwener a Sadwrn i Uned Ymateb Beic yr Ymddiriedolaeth.

Dywedodd Andrew: “Rydym yn falch o’r Uned Ymateb Beic, sydd ar hyn o bryd yn darparu gofal i’r rhai o amgylch Caerdydd, yn enwedig ar y dyddiau prysuraf, mewn ardaloedd gorlawn lle na all ambiwlansys brys fynd drwodd.”

Ychwanegodd Craig: “Rydym hefyd yn teithio i ddigwyddiadau eraill yng Nghymru, fel gŵyl Elvis ym Mhorthcawl ac yn gweithio gydag asiantaethau partner, rhai dros y ffin.”

Gan ddechrau ddydd Mawrth 05 Gorffennaf a gobeithio gorffen ddydd Sul 10 Gorffennaf, bydd Andrew a Craig yn cychwyn ar y daith.

Dywedodd Ian Price, Technegydd Meddygol Brys yr Ymddiriedolaeth ac un o ymddiriedolwyr Woody's Lodge, “Rwy'n falch iawn bod Andrew a Craig yn cefnogi'r ymdrech hon i godi arian.

“Hoffwn ddiolch i Jason Killens, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth am ganiatáu i’r ddau aelod o staff gymryd rhan gyda Cherbyd Ymateb Beic a beiciau.

“Mae Woody’s Lodge yn Gymru gyfan, a byddwn yn eu hargymell i unrhyw aelod o staff sydd angen cymorth.”

  Dywedodd Sian Woodland, Cyd-sylfaenydd a Dirprwy Brif Weithredwr Woody's Lodge “Rydym mor falch ein bod wedi trefnu ein taith feicio gyntaf eleni ac yn edrych ymlaen at gymaint mwy.

“Mae ein beicwyr yn gymysgedd o gyn-filwyr, milwyr sy’n gwasanaethu a phobl sy’n cefnogi ein helusen.

“Mae Woody’s Lodge yn fwy nag elusen i mi yn unig, mae’n etifeddiaeth, felly rwyf am ddiolch i WAST am eu cefnogaeth barhaus, ac am gadw ein beicwyr yn ddiogel.”

Gallwch noddi'r ddeuawd a gweddill y tîm drwy dudalen JustGiving Woody's Lodge yma.

 

Nodyn y Golygydd

Ar hyn o bryd mae gan Woody's Lodge dair canolfan ledled Cymru.

Mae gwefan Woody's Lodge i'w gweld yma: https://www.woodyslodge.org/

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Beth Eales yn Beth.Eales@wales.nhs.uk neu ffoniwch Beth ar 07870 383209.