Dathlodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu staff a’u gwirfoddolwyr hir eu gwasanaeth mewn seremoni wobrwyo yn Ne Cymru ddoe.
Cyflwynwyd medalau i gydweithwyr gyda 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd yn y cyntaf o dri digwyddiad ledled Cymru i gydnabod hyd gwasanaeth.
Cyflwynwyd Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da hefyd i gydweithwyr sydd ag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Meddygol Brys gan gynrychiolydd y Brenin yng Ngwent, yr Arglwydd Raglaw Brigadydd Robert Aitken CBE.
Roedd Uchel Siryf Gwent, yr Athro Simon J Gibson, hefyd ymhlith y gwesteion nodedig.
Dywedodd y Prif Weithredwr Jason Killens: “Mae’r pwysau ar y GIG dros y tair blynedd diwethaf wedi profi ein gwydnwch corfforol ac emosiynol fel erioed o’r blaen.
“Pan mae pethau'n anodd, mae'n hawdd anghofio dweud 'diolch' a dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn cymryd amser mewn digwyddiadau gwobrwyo i gydnabod cydweithwyr am eu gwaith gwych ac yn arbennig, hyd eu gwasanaeth.
“ Mae Gwobrau Gwasanaeth Hir yn gyfle gwych i ddathlu enaid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – ei bobl.
“Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Yn aml pan fo pobl ar eu trai isaf, ein staff ni yw’r bobl maen nhw’n troi atyn nhw, ac mae’n cymryd pobl ryfeddol i wneud y gwaith rhyfeddol maen nhw’n ei wneud, o ddydd i ddydd.
“Mae'n syfrdanol meddwl bod yr holl Wobrau Gwasanaeth Hir a gyflwynwyd gennym ddoe yn cyfrif am fwy nag 800 mlynedd o wasanaeth.
“Heddiw a phob dydd, rydyn ni’n diolch i gydweithwyr am eu gwasanaeth.”
Mae bron i 200 o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth wedi cael gwahoddiad i dderbyn Gwobr Gwasanaeth Hir eleni.
Ychwanegodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Y rheswm pam mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw ei bobl sy’n gweithio’n ddiflino, 24/7, i wasanaethu pobl Cymru.
“Mae ein holl staff a gwirfoddolwyr – o glinigwyr i drafodwyr galwadau, cyllid i fflyd, TGCh i ystadau, ymchwil i reoli risg, a mwy – yn chwarae rhan mewn achub bywydau ac rwy’n hynod falch o’u cyflawniadau.
“Llongyfarchiadau i bob un o’n derbynwyr.”
Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch Lois ar 07866887559.