Neidio i'r prif gynnwy
Bethan Evans

Cyfarwyddwr Anweithredol

Welsh Ambulance Services NHS Trust

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mae Bethan wedi gweithio mewn llywodraeth leol, y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl ag anabledd i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd a gwireddu eu dyheadau ers dros 25 mlynedd.

Am y 15 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio ar lefel Bwrdd Gweithredol, gan arwain sefydliadau a thimau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Er ei bod wedi gweithio'n bennaf ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae hefyd wedi arwain gwasanaethau yn y sectorau tai cymdeithasol a budd-dal-i-waith.

Ar hyn o bryd mae Bethan yn cael ei chyflogi fel Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni newydd iechyd a gofal cymdeithasol ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol mewn Cymdeithas Tai Cymdeithasol yn Ne Cymru.

Mae hi'n angerddol am gefnogi eraill ac mae ganddi hanes o arwain pobl yn effeithiol, rheoli perfformiad, datblygu busnes a datblygu diwylliannau cynhwysol.