Neidio i'r prif gynnwy
Ceri Jackson

Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-gadeirydd

Welsh Ambulance Services NHS Trust

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-gadeirydd

Mae Ceri wedi dal nifer o uwch rolau yn y sector elusennol. Hi oedd Cyfarwyddwr Dros Dro Strategaeth a Thrawsnewid yn Nhŷ Hafan tan y llynedd, a chyn hynny bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr a Phennaeth Cymunedol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB).

Penodwyd Ceri yn Gyfarwyddwr Anweithredol yr Ymddiriedolaeth ar 1 Ebrill, 2021, am gyfnod o 12 mis dros dro i ddechrau ac yna fe’i penodwyd yn barhaol ar 1 Ebrill, 2022.  Ers hynny mae wedi’i phenodi’n Is-gadeirydd dros dro o 1 Rhagfyr, 2023.

Mae hi wedi bod yn aelod o sawl Bwrdd yng Nghymru er mwyn helpu i adolygu polisi ac ymarfer ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Mae Ceri, sy'n byw yng Nghaerdydd, hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol i'r Gymdeithas Strôc a Sight Life.