Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol/ Ysgrifennydd y Bwrdd
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol/ Ysgrifennydd y Bwrdd
Ymunodd Trish â'r Ymddiriedolaeth ym mis Awst 2021 o Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Walsall lle'r oedd hi'n Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth. Cyn hynny, roedd Trish wedi dal swyddi Cyfarwyddwr Gweithredol Llywodraethu Corfforaethol/Ysgrifennydd y Bwrdd, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn Sidra Medicine yn Qatar.
Mae Trish yn ddinesydd o Awstralia gyda gwreiddiau hirhoedlog yng Nghymru ac mae ganddi brofiad o lywodraethu a Bwrdd y GIG a rhyngwladol ym maes gofal iechyd ac addysg. Mae hi'n aelod o Gymdeithas y Gyfraith De Cymru Newydd, ac mae ei chefndir a'i hyfforddiant cyfreithiol yn ei gwneud hi'n bosibl iddi ganolbwyntio ar yr amgylchedd rheoleiddio y mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithredu ynddo – gan ddefnyddio'r fframwaith hwnnw i'r eithaf i alluogi'r Ymddiriedolaeth i gyflawni ei hamcanion strategol. Mae gan Trish ddiddordeb brwd mewn sicrhau llinellau golwg a chyfathrebu clir o'r rheng flaen i'r Bwrdd ac yn ôl, a mecanweithiau a deinameg llywodraethu integredig da.