Neidio i'r prif gynnwy
Jonny Sammut

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol

Penodwyd Jonny Sammut i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol ym mis Medi 2023. Mae’n ymuno â ni o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans y Gogledd Orllewin (NWAS), lle’r oedd yn Bennaeth Digidol ac Arloesedd.

Mae gan Jonny ddau ddegawd o brofiad mewn arweinyddiaeth, gwasanaethau digidol a data ar draws sefydliadau yn y sector preifat a chyhoeddus. Cyn ymuno â NWAS, bu Jonny yn gweithio yn Health Management Ltd fel eu Cyfarwyddwr Gwybodaeth Busnes ac yna yn Capita plc ac Aviva plc mewn rolau digidol a data amrywiol.

Aelod o Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (MBCS) a myfyriwr graddedig carfan 4 diweddar o academi ddigidol y GIG gan ennill Diploma Ôl-raddedig o Goleg Imperial Llundain mewn arweinyddiaeth iechyd digidol.

Mae Jonny yn falch o gadarnhau ei ymrwymiad i gwestiynu’r status quo ac yn ymdrechu i ddiwygio gwasanaethau digidol cyfoes.