Neidio i'r prif gynnwy
Damon Turner

Partner Undeb Llafur

Welsh Ambulance Services NHS Trust

Amdanaf i

Partner Undeb Llafur

Ymunodd Damon â gwasanaeth Ambiwlans Morgannwg Ganol (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ers 1998) ym 1993 a dechreuodd weithio fel aelod o’r Gwasanaeth Trosglwyddo Cleifion; roedd ei gytundeb cychwynnol am 15 awr yr wythnos.

Ym 1996 cymhwysodd fel Technegydd Meddygol Brys ac yn dilyn sawl blwyddyn yn y rôl honno cymhwysodd fel Parafeddyg ym 1999. Ar hyn o bryd mae Damon wedi'i leoli yng ngorsaf ambiwlans Porthcawl.

Mae wedi bod yn stiward UNSAIN ers 2021 ac ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd y gangen. Mae Damon yn frwd dros gynrychioli buddiannau'r gweithlu ar bob lefel.