Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
Welsh Ambulance Services NHS Trust
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
Ar ôl gweithio yn Awstralia yn flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Metropolitan Adelaide, ymunodd Lee â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ym mis Gorffennaf 2019 fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.
Mae gan Lee dros ddegawd o brofiad arweinyddiaeth uwch yn y sector ambiwlans brys ac iechyd, ar ôl gweithio yn Llundain, Cymru, Seland Newydd ac, yn fwyaf diweddar, Awstralia.
Mae Lee wedi gweithio ym maes gorfodi’r gyfraith o’r blaen ac yn ystod ei yrfa yn y sector ambiwlansys mae wedi cael profiad helaeth o arwain canolfan gyswllt glinigol effeithiol, yn ogystal ag yn fwyaf diweddar mewn gweithrediadau maes.
Yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2021, dyfarnwyd Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Frenhines am Wasanaeth Nodedig i Lee yn ystod y pandemig ar draws Ymateb Ambiwlans Brys Rheng Flaen, Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng a Gwasanaethau Canolfannau Cyswllt Clinigol.