Neidio i'r prif gynnwy
Chris Turley

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol

Welsh Ambulance Services NHS Trust

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol

Ymunodd Chris â’r gwasanaeth ambiwlans ym mis Hydref 2015 fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid yr Ymddiriedolaeth ac o fis Chwefror 2018 ef oedd y Cyfarwyddwr Gweithredol dros dro dros Gyllid a TGCh. Penodwyd Chris yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol ym mis Chwefror 2020.

Mae Chris wedi cael gyrfa 30 mlynedd ym maes cyllid yn GIG Cymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyllid dros dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Phennaeth Cyllid Grŵp Cydweithredol Iechyd GIG Cymru.

Arweiniodd adnewyddiad radical o’r ffordd yr oedd sefydliadau’n cael eu hariannu yn dilyn ad-drefnu cyrff y GIG yng Nghymru, a chreu’r saith Bwrdd Iechyd Lleol presennol yn 2009.

Ynghyd â bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, bydd Chris yn dal y portffolio ar gyfer holl Adnoddau Corfforaethol yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys Ystadau a Fflyd, yn ogystal â bod yn gyfrifol am raglen gyfalaf yr Ymddiriedolaeth.

Bydd hefyd yn gweithredu fel Uwch Swyddog Cyfrifol yr Ymddiriedolaeth am weithrediad parhaus y gwasanaeth 111 yng Nghymru.

Os hoffech gysylltu â Chris Turley yna ffoniwch: 01633 626182