Neidio i'r prif gynnwy
Hannah Rowan

Cyfarwyddwr Anweithredol

Welsh Ambulance Services NHS Trust

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mae Hannah wedi treulio’r wyth mlynedd diwethaf yn y sector elusennol yng Nghymru ar ôl dechrau ei gyrfa yn gweithio fel athrawes. Mae hi'n hyfforddwr profiadol, gyda phwyslais ar ddatrys problemau lefel uchel a throsolwg strategol.

Ar hyn o bryd mae Hannah yn gweithio fel Rheolwr Newid i Cyngor ar Bopeth. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr ar gyfer yr holl gymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru.

Mae Hannah yn eiriolwr brwd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’r effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar ddiwylliant a pherfformiad sefydliad.

- Pobl a Diwylliant
- Ansawdd a Phrofiad y Claf (Quest)
- Partneriaethau Academaidd
- Cronfeydd Elusennol
- Pwyllgor Tâl