Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu
Penodwyd Estelle Hitchon i swydd Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu ym mis Rhagfyr 2015 ar ôl bod ar secondiad gyda'r Ymddiriedolaeth ers mis Hydref 2014 o BIP Caerdydd a'r Fro.
Mae Estelle yn arbenigwr cyfathrebu ac ymgysylltu, sydd wedi cyflawni newid cadarnhaol ar draws amgylcheddau cymhleth a gwleidyddol ac mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu, cyflawni a gwerthuso strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, gyda ffocws penodol ar reoli rhanddeiliaid, materion ac argyfyngau.
Mae gan Estelle brofiad o weithio gyda Byrddau a Thimau Gweithredol mewn sefydliadau cymhleth i reoli rhyngwynebau rhanddeiliaid, gwella ymgysylltiad a chyd-fynd ag agendâu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Gyda MA mewn Astudiaethau Dwyrain Ewrop, mae Estelle wedi gweithio fel newyddiadurwraig, darlithydd gwleidyddiaeth ac yn eang ar draws y sector cyhoeddus yn ei gyrfa 25 mlynedd. Hi hefyd oedd Pennaeth y Wasg cyntaf yn Opera Cenedlaethol Cymru, gan helpu i lywio'r sefydliad trwy un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn ei hanes.