Neidio i'r prif gynnwy
Ceri Jackson

Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-gadeirydd

Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-gadeirydd

Mae Ceri wedi dal nifer o rolau uwch yn y sector elusennol. Hi oedd Cyfarwyddwr Dros Dro Strategaeth a Thrawsnewid yn Nhŷ Hafan, ac mae wedi gweithio'n flaenorol fel Cyfarwyddwr a Phennaeth Cymuned yn y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol i Bobl Ddall (RNIB).

Penodwyd Ceri yn Gyfarwyddwr Anweithredol yr Ymddiriedolaeth ar 1 Ebrill 2021 i ddechrau ar sail dros dro o 12 mis ac yna cafodd ei phenodi'n barhaol ar 1 Ebrill 2022. Daeth Ceri yn Is-gadeirydd dros dro'r Ymddiriedolaeth ym mis Rhagfyr 2023 a'i phenodi'n Is-gadeirydd parhaol o 1 Gorffennaf 2024.

Mae hi wedi bod yn aelod o sawl Bwrdd yng Nghymru er mwyn helpu i adolygu polisi ac arfer ar draws amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Mae Ceri, sy'n byw yng Nghaerdydd, hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Gymdeithas Strôc a Sight Life.