Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu
Penodwyd Estelle Hitchon i swydd Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu ym mis Rhagfyr 2015 ar ôl bod ar secondiad gyda’r Ymddiriedolaeth ers mis Hydref 2014 o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Arbenigwr cyfathrebu ac ymgysylltu yw Estelle, sydd wedi cyflawni newid cadarnhaol ar draws amgylcheddau cymhleth a gwleidyddol ac sy’n brofiadol iawn mewn datblygu, darparu a gwerthuso strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, gan ganolbwyntio’n benodol ar randdeiliaid, materion a rheoli argyfyngau.
Mae Estelle yn brofiadol mewn gweithio gyda Byrddau a Thimau Gweithredol mewn sefydliadau cymhleth i reoli rhyngwynebau rhanddeiliaid, gwella ymgysylltiad ac alinio agenda i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Gydag MA mewn Astudiaethau Dwyrain Ewropeaidd, mae Estelle wedi gweithio fel newyddiadurwr, darlithydd gwleidyddiaeth ac yn eang ar draws y sector cyhoeddus yn ei gyrfa 25 mlynedd. Hi hefyd oedd Pennaeth y Wasg cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru, gan helpu i lywio’r sefydliad drwy un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn ei hanes.
Os hoffech gysylltu ag Estelle Hitchon yna ffoniwch: 01633 626178.