Cyfarwyddwr Anweithredol
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Anweithredol
Graddiodd Hayley Hutchings gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a PhD mewn Ffisioleg o Brifysgol Caerdydd, lle bu’n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil yr Annwyd Cyffredin a’r Trwyn ar ysgoloriaeth Proctor and Gamble.
Gweithiodd Hayley Hutchings ym Mhrifysgol Abertawe am 30 mlynedd a chyn ymddeol o’r byd academaidd a daliodd swydd Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Chyfarwyddwr Uned Treialon Abertawe.
Yn ystod ei gyrfa academaidd, ffocws Hayley oedd ymchwil, yn benodol ymchwil gwasanaethau iechyd a threialon clinigol.
Roedd ei diddordebau ymchwil yn cynnwys mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion, ymchwil pediatreg, ymchwil i gyflyrau cronig a defnyddio data dienw cysylltiedig. Mae hi wedi cyhoeddi dros 170 o gyhoeddiadau hyd yn hyn.
Yn ogystal â’i phortffolio ymchwil, cyfrannodd Hayley at weithgareddau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil sefydliadol, gweithgareddau adolygu gan gymheiriaid, a goruchwylio ôl-raddedig.
Mae Hayley bellach yn dal swydd Athro Emeritws Ymchwil Gwasanaethau Iechyd ac mae ei phortffolio ymchwil ar gael i’w weld yma: Yr Athro Hayley Hutchings - Prifysgol Abertawe.