Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
Bu i Lee ailyumno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ym mis Gorffennaf 2019 ac ef yw’r Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau. Mae ganddo gymhwyster ôl-raddedig mewn Ymarfer Bwrdd a Chyfarwyddo o Ysgol Busnes Henley.
Gyda dros ddegawd o brofiad uwch arweinyddiaeth yn y sector ambiwlans brys ac iechyd, mae Lee wedi gweithio mewn lleoliadau gan gynnwys Llundain, Cymru, Seland Newydd, ac yn fwyaf diweddar, Awstralia, lle bu'n Gyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau ar gyfer Metropolitan Adelaide.
Mae Lee wedi gweithio yn y gwasanaeth heddlu o’r blaen, ac yn ystod ei yrfa, mae wedi cael profiad helaeth o arweinyddiaeth effeithiol mewn canolfannau cyswllt brys, yn ogystal â gweithrediadau ambiwlans argyfwng a di-frys ehangach.
I gydnabod ei wasanaeth nodedig yn ystod pandemig Covid-19, dyfarnwyd Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Frenhines i Lee yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2021. Ym mis Mawrth 2023, cafodd ei dderbyn yn Aelod o Urdd Sant Ioan am ei waith o greu rolau ymatebwyr gwirfoddol amgen yng Nghymru.