Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio
Liam Williams, Nyrs Gofrestredig, yn ymuno â’r Ymddiriedolaeth o GIG De, Canolbarth a Gorllewin, lle mae'n Gyfarwyddwr Ansawdd a Pherfformiad Systemau.
Cyn hynny, ef oedd Prif Swyddog Nyrsio Grŵp Comisiynu Clinigol Gogledd Gwlad yr Haf, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Comisiynu Grŵp Comisiynu Clinigol Merton a Chyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yng Ngwasanaeth Ambiwlans Great Western.
Mae gan Liam radd mewn Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Oxford Brookes, a gradd meistr mewn Rheoli Partneriaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Brifysgol Birmingham.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Raglen Arweinwyr Clinigol Systemau Gofal Integredig Sefydliad Florence Nightingale. Liam hefyd yw Gwarcheidwad Caldicott yr Ymddiriedolaeth.