Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Perfformiad a Chynllunio
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Perfformiad a Chynllunio
Daeth Rachel Marsh yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Cynllunio a Pherfformiad ym mis Hydref 2019, ar ôl ymuno â’r Ymddiriedolaeth am y tro cyntaf fel Cyfarwyddwr Perfformiad a Chynllunio Dros Dro ym mis Rhagfyr 2018.
Mae Rachel wedi gweithio yn y GIG yng Nghymru ers 27 mlynedd, yn bennaf yn rhanbarth De Canolog. Mae ei phrofiad diweddaraf yn cynnwys rolau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd a Thrawsnewid Gwasanaethau a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio (Cyfalaf ac Ystadau).