Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol/ Ysgrifennydd y Bwrdd
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol/ Ysgrifennydd y Bwrdd
Ymunodd Trish â’r Ymddiriedolaeth ym mis Awst 2021 o Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Walsall lle bu’n Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth. Cyn hynny, roedd Trish wedi dal swyddi Cyfarwyddwr Gweithredol Llywodraethu Corfforaethol/Ysgrifennydd Bwrdd, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn Sidra Medicine yn Qatar.
Mae Trish yn wladolyn o Awstralia sydd â gwreiddiau hirsefydlog yng Nghymru ac mae’n dod â phrofiad Bwrdd a llywodraethu rhyngwladol yn y GIG ac yn rhyngwladol ym maes gofal iechyd ac addysg. Mae’n aelod o Gymdeithas y Cyfreithwyr De Cymru Newydd, ac mae ei chefndir cyfreithiol a’i hyfforddiant yn rhoi ffocws i’r amgylchedd rheoleiddio y mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu ynddo – gan ddefnyddio’r fframwaith hwnnw i’r effaith orau i alluogi’r Ymddiriedolaeth i gyflawni ei hamcanion strategol. Mae gan Trish ddiddordeb mawr mewn sicrhau llinellau gweld a chyfathrebu clir o'r rheng flaen i'r Bwrdd ac yn ôl, a mecaneg a dynameg llywodraethu integredig da.
Gallwch gysylltu â Trish ar 07508-279533 neu trish.mills@wales.nhs.uk.