Mae gwirfoddolwr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ennill Gwobr Gwirfoddolwr Caerdydd.
Cyflwynwyd Gwobr Cydlynydd Gwirfoddolwyr y Flwyddyn 2022 i Roger Marshall, Ymatebwr Cyntaf Cymunedol (CFR), gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd.
Ymunodd y dyn 76 oed, fu’n gweithio fel ffarmacolegydd am bron i 40 mlynedd, â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru saith mlynedd yn ôl.
Ochr yn ochr â gwirfoddoli fel CFR, mae Roger wedi ymweld ag ysgolion yn ddiweddar fel rhan o ymgyrch Shoctober yr Ymddiriedolaeth a gynlluniwyd i addysgu plant am bwysigrwydd adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) pan fydd rhywun yn dioddef trawiad ar y galon.
Mae hefyd yn dal i ddarlithio cwpl o weithiau'r flwyddyn i Goleg Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ar y cwrs damweiniau ac achosion brys ac i'r myfyrwyr deintyddol.
Dywedodd Roger: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y wobr hon, gan fod bod yn CFR yn rhoi cymaint o foddhad.
“Rydw i nid yn unig yn helpu pobl, ond mae’r rôl yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed, ac rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn bod gen i rywbeth fel hyn i’w wneud.
“Rwy’n gyffrous dros y tîm CFR o Gaerdydd, gan fod gennym rai aelodau tîm newydd sy’n wych.
“Byddaf yn parhau i wirfoddoli fel CFR nes bod fy nghorff yn dweud fel arall.”
Mae Gwobr Cydlynydd Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cael ei chyflwyno i unigolyn sy’n mynd gam ymhellach, gan gefnogi eraill i wirfoddoli.
Dywedodd Jennifer Wilson, Rheolwr Gwirfoddolwyr Cenedlaethol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Roger wedi derbyn y wobr hon i gydnabod yr ymroddiad a’r gofal y mae’n eu darparu i bobl Caerdydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans.
“Mae Roger yn cael ei edmygu a’i barchu gan gleifion, gwirfoddolwyr a staff ar draws yr Ymddiriedolaeth, ac mae hon yn wobr haeddiannol – llongyfarchiadau Roger!”
Cynhaliwyd y seremoni ddydd Iau diwethaf (17 Tachwedd) yng Nghanolfan Gymunedol Butetown, lle cafodd gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau eu cydnabod am eu gwaith caled ac am fynd gam ymhellach a thu hwnt i gefnogi pawb ledled Caerdydd.
Nodiadau y Golygydd
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddog Cyfathrebu Beth Eales ar 07870 383209 neu e- bostiwch Beth.Eales@wales.nhs.uk
Mae Gwobrau Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yn gyfle i ddiolch a gwobrwyo’r holl wirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau am eu cefnogaeth anhygoel, ond hefyd yn gyfle i aelodau’r cyhoedd wneud yr un peth trwy enwebu gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau yng Nghaerdydd. a wnaeth wahaniaeth iddyn nhw a/neu eu cymuned: https://c3sc.org.uk/cva-2022/