Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gynnal cyfarfod Bwrdd bob dau fis yr wythnos nesaf

BYDD Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnal eu cyfarfod Bwrdd bob deufis yr wythnos nesaf.

Gall y cyhoedd ymuno ar Zoom i glywed uwch arweinwyr yn trafod perfformiad a diogelwch cleifion, yn ogystal â sefyllfa ariannol yr Ymddiriedolaeth a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Bydd Rheolwr Rhaglen Dementia yr Ymddiriedolaeth yn sôn am y gwaith cydgynhyrchu diweddar a wnaed i wella profiad cleifion dementia, a bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd ofyn cwestiwn i’r Bwrdd.

Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Mae cyfarfodydd bwrdd yn ffordd wych o ddarganfod mwy am ein gwasanaeth ambiwlans, yn ogystal â gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

“Maen nhw’n gyfle i glywed nid yn unig am waith sy’n digwydd yma ac yn awr i wella pethau i gleifion a staff, ond am ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.”


Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd ar ddydd Iau 25 Mai o 9.30am.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn diwedd y cyfnod dydd Mercher 24 Mai fan bellaf.

Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw i dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth, a bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau nesaf.


Nodiadau y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y Pennaeth Cyfathrebu Lois.Hough@wales.nhs.uk neu ffoniwch Lois ar 07866887559.